from the RHAGYMADRODD:
Mae yr awyddfryd cynyddol sydd yn mhlith y Cymry i ymgydnabod yn fwy a'r iaith Saesoneg yn un o arwyddion gobeithiol yr amserau. Am bob un o'n cydgenedl ag oedd yn deall Saesoneg yn nechreuad y ganrif hon, mae yn debyg na fethem wrth ddyweud fod ugeiniau os nad canoedd yn ei deall yn awr. O'r ochor arall, y mae rhifedi mwy nag a feddylid o'r Saeson sy'n ymweled a'n gwlad yn ystod misoedd yr haf yn gwneuthur ymdrech nid bychan i ddysgu Cymraeg.
Ond mae yn eglur nas gall neb feistroli iaith estronol heb gymorth geiriaduron. Nis gellir dyweud fod y gwahanol Eiriaduron sydd yn awr ar y maes yn rhai ymarferol o herwydd y mae ynddynt filoedd o eiriau nad arferwyd erioed, ac ond odid nad arferir byth; ac y mae hyny, wrth reswm, yn chwyddo y gwaith, nes peri ei fod allan o gyraedd y dosparth iselradd. Geiriadur rhad ymarferol yw hwn i'r lluaws nad allant hyfforddio i gael rhai mwy.
DOWNLOAD A WELSH-ENGLISH POCKET DICTIONARY - WILLIAM RICHARDS
Aucun commentaire:
Enregistrer un commentaire